Exodus 28:14-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

14. a dwy gadwyn o aur pur wedi eu plethu ynghyd; gosod y cadwynau wedi eu plethu yn yr edafwaith.

15. “Gwna ddwyfronneg o grefftwaith cywrain ar gyfer barnu; gwna hi, fel yr effod, o aur, o sidan glas, porffor ac ysgarlad ac o liain main wedi ei nyddu.

16. Bydd yn sgwâr ac yn ddwbl, rhychwant o hyd a rhychwant o led.

Exodus 28