Exodus 26:23-28 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

23. a dwy arall ar gyfer conglau cefn y tabernacl,

24. wedi eu cysylltu yn y pen a'r gwaelod â bach; bydd y ddwy ffrâm yr un fath, ac yn ffurfio'r ddwy gongl.

25. Felly bydd wyth ffrâm ac un ar bymtheg o draed arian, dau droed dan bob ffrâm.

26. “Gwna hefyd farrau o goed acasia, pump ar gyfer fframiau'r naill ochr i'r tabernacl,

27. pump ar gyfer fframiau'r ochr arall, a phump ar gyfer y fframiau yng nghefn y tabernacl, sef yr ochr orllewinol.

28. Bydd y bar sydd ar ganol y fframiau yn ymestyn o un pen i'r llall.

Exodus 26