Exodus 22:27-29 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

27. oherwydd dyna'r unig orchudd sydd ganddo, a dyna'r wisg sydd am ei gorff; beth arall sydd ganddo i gysgu ynddo? Os bydd yn galw arnaf fi, fe wrandawaf arno am fy mod yn drugarog.

28. “Paid â chablu Duw, na melltithio pennaeth o blith dy bobl.

29. “Paid ag oedi offrymu o'th ffrwythau aeddfed neu o gynnyrch dy winwryf.“Yr wyt i gyflwyno i mi dy fab cyntafanedig.

Exodus 22