Exodus 20:19-22 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

19. a dweud wrth Moses, “Llefara di wrthym, ac fe wrandawn; ond paid â gadael i Dduw lefaru wrthym, rhag inni farw.”

20. Dywedodd Moses wrthynt, “Peidiwch ag ofni, oherwydd fe ddaeth Duw i'ch profi, er mwyn ichwi ddal i'w barchu ef, a pheidio â phechu.”

21. Safodd y bobl o bell, ond nesaodd Moses at y tywyllwch lle'r oedd Duw.

22. Dywedodd yr ARGLWYDD wrtho, “Fel hyn y dywedi wrth bobl Israel: ‘Gwelsoch i mi lefaru wrthych o'r nefoedd.

Exodus 20