Esther 1:7-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

7. Yr oedd cwpanau aur o wahanol fathau i yfed ohonynt, ac yr oedd digonedd o win trwy haelioni'r brenin.

8. Ynglŷn â'r yfed, nid oedd gorfodaeth ar neb, oherwydd gorchmynnodd y brenin i holl swyddogion ei balas wneud fel yr oedd pawb yn dymuno.

9. Gwnaeth y Frenhines Fasti hefyd wledd i'r gwragedd ym mhalas y Brenin Ahasferus.

Esther 1