17. a'u hanfon at Ido, y pennaeth yng nghanolfan Chasiffeia; rhois iddynt neges i'w chyflwyno i Ido a'i frodyr, gweision y deml, oedd yn Chasiffeia, yn gofyn iddo anfon atom wasanaethyddion ar gyfer tŷ ein Duw.
18. Ac am ein bod yn derbyn ffafr ein Duw, anfonasant atom Serebeia, gŵr deallus o deulu Mahli, fab Lefi, fab Israel, gyda'i feibion a'i frodyr, deunaw ohonynt i gyd;
19. hefyd Hasabeia, a chydag ef Eseia o deulu Merari, gyda'i frodyr a'u meibion, ugain ohonynt;
20. a dau gant ac ugain o weision y deml, yn unol â threfn Dafydd a'i swyddogion, i gynorthwyo'r Lefiaid. Rhestrwyd hwy oll wrth eu henwau.
21. Ac yno wrth afon Ahafa cyhoeddais ympryd i ymostwng o flaen ein Duw, i weddïo am siwrnai ddiogel i ni a'n plant a'n heiddo.
22. Yr oedd arnaf gywilydd gofyn i'r brenin am filwyr a marchogion i'n hamddiffyn yn erbyn gelynion ar y ffordd, am ein bod eisoes wedi dweud wrtho, “Y mae ein Duw yn rhoi cymorth i bawb sy'n ei geisio, ond daw grym ei lid yn erbyn pawb sy'n ei wadu.”
23. Felly gwnaethom ympryd ac ymbil ar ein Duw am hyn, a gwrandawodd yntau arnom.