8. Yn ail fis yr ail flwyddyn wedi iddynt ddychwelyd i dŷ Dduw yn Jerwsalem, dechreuodd Sorobabel fab Salathiel a Jesua fab Josadac ar y gwaith gyda'r gweddill o'u brodyr, a'r offeiriaid a'r Lefiaid, a phawb oedd wedi dychwelyd o'r gaethglud i Jerwsalem; a phenodwyd y Lefiaid oedd dros ugain mlwydd oed i arolygu gwaith tŷ'r ARGLWYDD.
9. Jesua a'i feibion a'i frodyr oedd yn gyfrifol am arolygu'r gweithwyr yn nhŷ Dduw, a chyda hwy yr oedd y Jwdead Cadmiel a'i feibion, a meibion Henadad a'u meibion hwythau, a'u brodyr y Lefiaid.
10. Wedi i'r adeiladwyr osod sylfaen teml yr ARGLWYDD, safodd yr offeiriaid yn eu gwisgoedd gyda thrwmpedau, a'r Lefiaid, meibion Asaff, gyda symbalau i foliannu'r ARGLWYDD yn ôl gorchymyn Dafydd brenin Israel.
11. Yr oeddent yn ateb ei gilydd mewn mawl a diolch i'r ARGLWYDD: “Y mae ef yn dda, a'i gariad at Israel yn parhau byth.” Yna bloeddiodd yr holl bobl yn uchel mewn moliant i'r ARGLWYDD am fod sylfaen tŷ'r ARGLWYDD wedi ei gosod.