Esra 10:17-20 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

17. ac erbyn y dydd cyntaf o'r mis cyntaf yr oeddent wedi gorffen eu hymchwiliad i'r holl briodasau gyda merched estron.

18. Ymysg meibion yr offeiriaid oedd wedi priodi merched estron yr oedd y canlynol: Maseia, Elieser, Jarib a Gedaleia o deulu Jesua fab Josadac a'i frodyr.

19. Gwnaethant addewid i ysgaru eu gwragedd ac offrymasant hwrdd o'r praidd am eu trosedd.

20. O feibion Immer: Hanani a Sebadeia.

Esra 10