Eseia 63:2-5 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

2. Pam y mae dy wisg yn goch,a'th ddillad fel un yn sathru mewn gwinwryf?

3. “Bûm yn sathru'r grawnwin fy hunan,ac nid oedd neb o'r bobl gyda mi;sethrais hwy yn fy llid,a'u mathru yn fy nicter.Ymdaenodd eu gwaed dros fy nilladnes cochi fy ngwisgoedd i gyd;

4. oherwydd roedd fy mryd ar ddydd dial,a daeth fy mlwyddyn i waredu.

5. Edrychais, ond nid oedd neb i'm helpu,a synnais nad oedd neb i'm cynnal;fy mraich fy hun a'm gwaredodd,a chynhaliwyd fi gan fy nicter.

Eseia 63