Eseia 6:2-4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

2. Uwchlaw yr oedd seraffiaid i weini arno, pob un â chwech adain, dwy i guddio'r wyneb, dwy i guddio'r traed, a dwy i ehedeg.

3. Yr oedd y naill yn datgan wrth y llall,“Sanct, Sanct, Sanct yw ARGLWYDD y Lluoedd;y mae'r holl ddaear yn llawn o'i ogoniant.”

4. Ac fel yr oeddent yn galw, yr oedd sylfeini'r rhiniogau'n ysgwyd, a llanwyd y tŷ gan fwg.

Eseia 6