Eseia 45:1-3 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Dyma a ddywed yr ARGLWYDD wrth Cyrus ei eneiniog,yr un y gafaelais yn ei lawi ddarostwng cenhedloedd o'i flaen,i ddiarfogi brenhinoedd,i agor dorau o'i flaen,ac ni chaeir pyrth rhagddo:

2. “Mi af o'th flaen dii lefelu'r mynyddoedd;torraf y dorau pres,a dryllio'r barrau haearn.

3. Rhof iti drysorau o leoedd tywyll,wedi eu cronni mewn mannau dirgel,er mwyn iti wybod mai myfi yw'r ARGLWYDD,Duw Israel, sy'n dy gyfarch wrth dy enw.

Eseia 45