Eseia 38:13-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

13. O fel rwy'n dyheu am y bore!Maluriwyd fy esgyrn fel gan lew;o fore hyd nos rwyt yn fy narostwng.

14. Rwy'n trydar fel gwennol neu fronfraith,rwy'n cwynfan fel colomen.Blinodd fy llygaid ar edrych i fyny;O ARGLWYDD, pledia ar fy rhan a bydd yn feichiau drosof.”

15. Beth allaf fi ei ddweud?Llefarodd ef wrthyf ac fe'i gwnaeth.Ciliodd fy nghwsg i gyd,am ei bod mor chwerw arnaf.

Eseia 38