Eseia 30:20-25 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

20. Er i'r Arglwydd roi iti fara adfyd a dŵr cystudd, ni chuddir dy athrawon mwyach, ond caiff dy lygaid eu gweld.

21. Pan fyddwch am droi i'r dde neu i'r chwith, fe glywch â'ch clustiau lais o'ch ôl yn dweud, “Dyma'r ffordd, rhodiwch ynddi.”

22. Fe ffieiddiwch eich delwau arian cerfiedig a'ch eilunod euraid. Gwrthodi hwy fel budreddi; dywedi wrthynt, “Bawiach.”

23. Ac fe rydd ef iti law i'r had a heui yn y pridd, a bydd cynnyrch y ddaear yn rawn bras a llawn; bydd dy anifeiliaid yn pori mewn porfa eang yn y dydd hwnnw,

24. a chaiff yr ychen a'r asynnod sy'n llafurio'r tir eu bwydo â phorthiant blasus, wedi ei nithio â fforch a rhaw.

25. Ar bob mynydd uchel a bryn dyrchafedig bydd afonydd a ffrydiau o ddŵr, yn nydd y lladdfa fawr, pan syrth y tyrau.

Eseia 30