Eseia 3:11-14 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

11. Gwae'r anwir! Bydd yn ddrwg arno,canys fe gaiff yr hyn a haedda.

12. Plant sy'n gorthrymu fy mhobl,a gwragedd sy'n eu rheoli.O fy mhobl, y mae dy arweinwyr yn dy gamarwain,ac yn drysu trywydd dy lwybrau.

13. Y mae'r ARGLWYDD yn sefyll i ddadlau ei achos,ac yn barod i farnu ei bobl.

14. Y mae'r ARGLWYDD yn dod i farnyn erbyn henuriaid y bobl a'u swyddogion:“Yr ydych wedi lloffa'r winllan yn llwyr;y mae cyfran y tlawd yn eich tai.

Eseia 3