Eseia 26:10-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

10. Er gwneud cymwynas â'r annuwiol, ni ddysg gyfiawnder;fe wna gam hyd yn oed mewn gwlad gyfiawn,ac ni wêl fawredd yr ARGLWYDD.

11. O ARGLWYDD, dyrchafwyd dy law, ond nis gwelant;gad iddynt weld dy sêl dros dy bobl, a chywilyddio;a bydded i dân d'elyniaeth eu hysu.

12. ARGLWYDD, ti sy'n trefnu heddwch i ni,oherwydd ti a wnaeth ein holl weithredoedd trosom.

13. O ARGLWYDD ein Duw, er i arglwyddi eraill reoli trosom,dy enw di yn unig a gydnabyddwn.

Eseia 26