Eseia 24:1-3 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Wele, y mae'r ARGLWYDD yn gwacáu'r ddaear,yn ei difrodi, yn ei throi â'i hwyneb i waered,ac yn gyrru ei thrigolion ar wasgar.

2. Bydd yr un ffunud i bobl ac i offeiriad,i was ac i feistr, i lawforwyn ac i feistres,i brynwr ac i werthwr, i echwynnwr ac i fenthyciwr,i'r un sy'n derbyn llog ac i'r un sy'n ei dalu.

3. Gwneir y ddaear yn gwbl wag, a'i hysbeilio'n llwyr.Oherwydd yr ARGLWYDD a lefarodd y gair hwn.

Eseia 24