4. Bydd Hesbon ac Eleale yn llefain,a chlywir eu cri hyd Jahas;am hynny bydd lwynau Moab yn crynu,ac yntau yn ysgwyd drwyddo.
5. Y mae fy nghalon yn llefain dros Moab.Bydd ei ffoaduriaid yn mynd mor bell รข Soar,hyd Eglath-shalisheia;dringant riw Luhith dan wylo,a thorri calon ar ffordd Horonaim.
6. Bydd dyfroedd Nimrim yn sychdir;gwywa'r llysiau, metha'r egin, diflanna'r glesni.
7. Am hynny cludant dros nant Arabimyr eiddo a'r enillion a gasglwyd ganddynt.
8. Aeth y gri o amgylch terfynau Moab,nes bod udo yn Eglaim, ac udo yn Beer-elim.