Eseia 14:9-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

9. Bydd Sheol isod yn cynhyrfu drwyddii'th dderbyn pan gyrhaeddi;bydd yn cyffroi'r cysgodion i'th gyfarfod,pob un a fu'n arweinydd ar y ddaear;gwneir i bob un godi oddi ar ei orsedd,sef pob un a fu'n frenin ar y cenhedloedd.

10. Bydd pob un ohonynt yn ymateb,ac yn dy gyfarch fel hyn:“Aethost tithau'n wan fel ninnau;yr wyt yr un ffunud â ni.”

11. Dygwyd dy falchder i lawr yn Sheol,yn sŵn miwsig dy nablau;oddi tanat fe daenir y llyngyr,a throsot y mae'r pryfed yn gwrlid.

12. O fel y syrthiaist o'r nefoedd,ti, seren ddydd, fab y wawr!Fe'th dorrwyd i'r llawr,ti, a fu'n llorio'r cenhedloedd.

13. Dywedaist ynot dy hun, “Dringaf fry i'r nefoedd,dyrchafaf fy ngorsedd yn uwch na'r sêr uchaf;eisteddaf ar y mynydd cynnullym mhellterau'r Gogledd.

14. Dringaf yn uwch na'r cymylau;fe'm gwnaf fy hun fel y Goruchaf.”

15. Ond i lawr i Sheol y'th ddygwyd,i lawr i ddyfnderau'r pwll.

Eseia 14