Eseia 14:2-6 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

2. Bydd pobloedd yn eu hebrwng i'w lle, a defnyddia teulu Jacob hwy yn weision a morynion yn nhir yr ARGLWYDD; byddant yn caethiwo'r rhai a'u gwnaeth hwy'n gaeth, ac yn llywodraethu ar y rhai a'u gorthrymodd hwy.

3. Yn y dydd y bydd yr ARGLWYDD yn rhoi llonydd i ti oddi wrth dy boen a'th lafur a'r gaethwasiaeth greulon y buost ynddi,

4. fe gei ddatgan y dychan hwn yn erbyn brenin Babilon:O fel y darfu'r gorthrymwrac y peidiodd ei orffwylltra!

5. Drylliodd yr ARGLWYDD ffon yr annuwiola gwialen y llywiawdwyr,

6. a fu'n taro'r bobloedd mewn dig,heb atal eu hergyd,ac yn sathru'r bobloedd mewn llida'u herlid yn ddi-baid.

Eseia 14