Eseciel 7:1-4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Daeth gair yr ARGLWYDD ataf a dweud,

2. “Tithau, fab dyn, dywed, ‘Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW wrth dir Israel: Diwedd! Daeth y diwedd ar bedwar cwr y wlad.

3. Daeth y diwedd yn awr arnat ti, ac anfonaf fy nig arnat; barnaf di yn ôl dy ffyrdd, a thalaf iti am dy holl ffieidd-dra.

4. Ni fyddaf yn tosturio wrthyt, ac ni fyddaf yn trugarhau, ond talaf iti am dy ffyrdd ac am y ffieidd-dra sydd yn dy ganol. Yna cewch wybod mai myfi yw'r ARGLWYDD.

Eseciel 7