Eseciel 43:26-27 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

26. Am saith diwrnod byddant yn gwneud cymod dros yr allor ac yn ei glanhau, ac felly'n ei chysegru.

27. Ar ddiwedd y dyddiau hyn, sef o'r wythfed diwrnod ymlaen, bydd yr offeiriaid yn aberthu eich poethoffrymau a'ch heddoffrymau ar yr allor; ac yna fe'ch derbyniaf, medd yr Arglwydd DDUW.”

Eseciel 43