Eseciel 31:8-14 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

8. Ni allai cedrwydd o ardd Duw gystadlu â hi,ac nid oedd y pinwydd yn cymharu o ran ceinciau;nid oedd y ffawydd yn debyg iddi o ran cangau,ac ni allai'r un goeden o ardd Duw gystadlu â hi o ran prydferthwch.

9. Gwneuthum hi'n brydferth â digon o ganghennau,nes bod holl goed Eden, gardd Duw, yn cenfigennu wrthi.

10. “ ‘Felly, fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Oherwydd iddi dyfu'n uchel, gan godi ei phen yn uwch na'r cangau ac ymfalchïo yn ei huchder,

11. rhoddais hi yn llaw rheolwr y cenhedloedd, iddo wneud â hi yn ôl ei drygioni. Bwriais hi o'r neilltu.

12. Estroniaid, y greulonaf o'r cenhedloedd, a'i torrodd i lawr a'i gadael. Syrthiodd ei changhennau ar y mynyddoedd ac i'r holl ddyffrynnoedd; yr oedd ei changau wedi eu torri yn holl gilfachau'r tir; daeth holl genhedloedd y ddaear allan o'i chysgod a'i gadael.

13. Aeth holl adar y nefoedd i fyw ar ei boncyff, a'r holl anifeiliaid gwylltion i'w brigau.

14. Oherwydd hyn, nid yw'r holl goed eraill wrth y dyfroedd i dyfu'n uchel na chodi eu pennau'n uwch na'r cangau; nid ydynt, oherwydd bod digon o ddŵr, i sefyll mor uchel; y maent i gyd wedi eu tynghedu i farwolaeth yn y tir isod, gyda meidrolion, ymhlith y rhai sy'n disgyn i'r pwll.

Eseciel 31