Eseciel 30:12-19 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

12. Sychaf yr afonydd hefyd, a gwerthu'r wlad i rai drwg; trwy ddwylo estroniaid anrheithiaf y wlad a phopeth sydd ynddi. Myfi yr ARGLWYDD a lefarodd.

13. “ ‘Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Dinistriaf yr eilunod a rhof ddiwedd ar y delwau sydd yn Noff; ni fydd tywysog yng ngwlad yr Aifft mwyach, a pharaf fod ofn trwy'r wlad.

14. Anrheithiaf Pathros, a rhof dân ar Soan, a gweithredu barn ar Thebes.

15. Tywalltaf fy llid ar Sin, cadarnle'r Aifft, a thorri ymaith finteioedd Thebes.

16. Rhof dân ar yr Aifft, a bydd Sin mewn gwewyr mawr; rhwygir Thebes a bydd Noff mewn cyfyngder yn ddyddiol.

17. Fe syrth gwŷr ifainc On a Pibeseth trwy'r cleddyf, a dygir y merched i gaethglud.

18. Bydd y dydd yn dywyllwch yn Tahpanhes, pan dorraf yno iau yr Aifft a dod â'i grym balch i ben; fe'i gorchuddir â chwmwl, a dygir ei merched i gaethglud.

19. Gweithredaf farn ar yr Aifft, a byddant yn gwybod mai myfi yw'r ARGLWYDD.’ ”

Eseciel 30