Eseciel 30:11-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

11. Dygir ef, a'i fyddin gydag ef, y greulonaf o'r cenhedloedd, i mewn i ddifetha'r wlad; tynnant eu cleddyfau yn erbyn yr Aifft a llenwi'r wlad â lladdedigion.

12. Sychaf yr afonydd hefyd, a gwerthu'r wlad i rai drwg; trwy ddwylo estroniaid anrheithiaf y wlad a phopeth sydd ynddi. Myfi yr ARGLWYDD a lefarodd.

13. “ ‘Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Dinistriaf yr eilunod a rhof ddiwedd ar y delwau sydd yn Noff; ni fydd tywysog yng ngwlad yr Aifft mwyach, a pharaf fod ofn trwy'r wlad.

14. Anrheithiaf Pathros, a rhof dân ar Soan, a gweithredu barn ar Thebes.

15. Tywalltaf fy llid ar Sin, cadarnle'r Aifft, a thorri ymaith finteioedd Thebes.

16. Rhof dân ar yr Aifft, a bydd Sin mewn gwewyr mawr; rhwygir Thebes a bydd Noff mewn cyfyngder yn ddyddiol.

Eseciel 30