Eseciel 27:34-36 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

34. Ond yn awr yr wyt wedi dy ddryllio gan y môryn nyfnder y dyfroedd;aeth dy nwyddau a'th holl fintaii lawr i'th ganlyn.

35. Brawychwyd holl drigolion yr ynysoedd o'th achos;y mae eu brenhinoedd yn crynu gan ofn,a phryder ar eu hwynebau.

36. Y mae marsiandïwyr y cenhedloedd wedi eu syfrdanu o'th blegid;aethost yn ddychryn, ac ni cheir mohonot mwyach.” ’ ”

Eseciel 27