Eseciel 27:20-23 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

20. Yr oedd Dedan yn marchnata brethynnau ar gyfer dy gyfrwyau.

21. Yr oedd Arabia a holl dywysogion Cedar yn bargeinio â thi ac yn cyfnewid ŵyn, hyrddod a geifr.

22. Yr oedd marsiandïwyr Sheba a Rama ymhlith dy farsiandïwyr, ac yn rhoi iti'n nwyddau y gorau o berlysiau a meini gwerthfawr ac aur.

23. Yr oedd Haran, Canne, Eden a marsiandïwyr Sheba, Asyria a Chilmad yn marchnata gyda thi.

Eseciel 27