Eseciel 27:16-19 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

16. Yr oedd Aram yn marchnata gyda thi am fod gennyt ddigon o nwyddau, ac yn rhoi glasfeini, porffor, brodwaith, lliain, cwrel a gemau yn gyfnewid am dy nwyddau.

17. Yr oedd Jwda a gwlad Israel hefyd ymhlith dy farsiandïwyr, ac yn cyfnewid gwenith o Minnith, ŷd, mêl, olew a balm yn dy farchnad.

18. Am fod gennyt ddigon o nwyddau a chyfoeth, yr oedd Damascus yn marchnata gyda thi win o Helbon a gwlân o Sahar.

19. Yr oedd Dan a Jafan o Usal yn rhoi haearn gyr, casia a chalamus yn gyfnewid am nwyddau yn dy farchnad.

Eseciel 27