Eseciel 24:8-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

8. Er mwyn ennyn llid a chodi dialedd, rhois innau ei gwaed ar graig noeth fel na ellir ei guddio.

9. “ ‘Felly, fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Gwae'r ddinas waedlyd! Gwnaf fi bwll tân mawr.

10. Gosod dithau ddigon o goed, cynnau'r tân, coginia'r cig, cymysga'r perlysiau, a llosger yr esgyrn.

11. Yna gosod y crochan yn wag ar y tanwydd nes iddo boethi ac i'w bres gochi, er mwyn toddi'r amhuredd a difa'r rhwd.

12. Yn ofer y blinais; nid â'r rhwd trwchus allan ohono hyd yn oed trwy dân.

Eseciel 24