Eseciel 22:14-17 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

14. A ddeil dy ddewrder, ac a fydd dy ddwylo'n gryf yn y dydd y byddaf fi'n ymwneud â thi? Myfi yr ARGLWYDD a lefarodd, a myfi a fydd yn gweithredu.

15. Fe'th wasgaraf ymysg y cenhedloedd a'th chwalu trwy'r gwledydd, a rhof ddiwedd ar dy aflendid.

16. Pan fyddi'n halogedig yng ngolwg y cenhedloedd, byddi'n gwybod mai myfi yw'r ARGLWYDD.’ ”

17. Daeth gair yr ARGLWYDD ataf a dweud,

Eseciel 22