Eseciel 21:17-20 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

17. Byddaf finnau hefyd yn taro fy nwylo,ac yna'n tawelu fy llid.Myfi yr ARGLWYDD a lefarodd.”

18. Daeth gair yr ARGLWYDD ataf a dweud,

19. “Yn awr, fab dyn, noda ddwy ffordd i gleddyf brenin Babilon ddod, a'r ddwy yn arwain o'r un wlad, a gosod fynegbost ar ben y ffordd sy'n dod i'r ddinas.

20. Noda un ffordd i'r cleddyf ddod yn erbyn Rabba'r Ammoniaid, a'r llall yn erbyn Jwda a Jerwsalem gaerog.

Eseciel 21