Eseciel 16:20-24 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

20. Cymeraist dy feibion a'th ferched, a oedd yn blant i mi, a'u hoffrymu yn fwyd iddynt; a oedd hyn yn llai o beth na'th buteindra?

21. Lleddaist fy mhlant a'u haberthu i'r eilunod.

22. Ac yn dy holl ffieidd-dra a'th buteindra, ni chofiaist ddyddiau dy ieuenctid, pan oeddit yn llwm a noeth ac yn ymdrybaeddu yn dy waed.

23. “ ‘Wedi dy holl ddrygioni (Gwae! Gwae di! medd yr Arglwydd DDUW),

24. adeiledaist i ti dy hun lwyfan, a gwnaethost iti uchelfa ym mhob sgwâr.

Eseciel 16