Effesiaid 6:19-22 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

19. a gweddïwch drosof finnau y bydd i Dduw roi i mi ymadrodd, ac agor fy ngenau, i hysbysu'n eofn ddirgelwch yr Efengyl.

20. Trosti hi yr wyf yn llysgennad mewn cadwynau. Ie, gweddïwch ar i mi lefaru'n hy amdani, fel y dylwn lefaru.

21. Er mwyn i chwithau wybod fy hanes, a beth yr wyf yn ei wneud, fe gewch y cwbl gan Tychicus, y brawd annwyl a'r gweinidog ffyddlon yn yr Arglwydd.

22. Yr wyf yn ei anfon atoch yn unswydd ichwi gael gwybod am ein hynt, ac er mwyn iddo ef eich calonogi.

Effesiaid 6