Effesiaid 5:14-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

14. Am hynny y dywedir:“Deffro, di sydd yn cysgu,a chod oddi wrth y meirw,ac fe dywynna Crist arnat.”

15. Felly, gwyliwch eich ymddygiad yn ofalus, gan fyw, nid fel rhai annoeth ond fel rhai doeth.

16. Daliwch ar eich cyfle, oherwydd y mae'r dyddiau'n ddrwg.

17. Am hynny, peidiwch â bod yn ffôl, ond deallwch beth yw ewyllys yr Arglwydd.

18. Peidiwch â meddwi ar win (afradlonedd yw hynny), ond llanwer chwi â'r Ysbryd.

Effesiaid 5