Effesiaid 2:19-22 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

19. Felly, nid estroniaid a dieithriaid ydych mwyach, ond cyd-ddinasyddion â'r saint ac aelodau o deulu Duw.

20. Yr ydych wedi eich adeiladu ar sylfaen yr apostolion a'r proffwydi, a'r conglfaen yw Crist Iesu ei hun.

21. Ynddo ef y mae pob rhan a adeiledir yn cyd-gloi yn ei gilydd ac yn codi'n deml sanctaidd yn yr Arglwydd.

22. Ynddo ef yr ydych chwithau hefyd yn cael eich cydadeiladu i fod yn breswylfod i Dduw yn yr Ysbryd.

Effesiaid 2