Diarhebion 8:19-24 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

19. Y mae fy ffrwythau'n well nag aur, aur coeth,a'm cynnyrch yn well nag arian pur.

20. Rhodiaf ar hyd ffordd cyfiawnder,ar ganol llwybrau barn,

21. a rhoddaf gyfoeth i'r rhai a'm câr,a llenwi eu trysordai.

22. “Lluniodd yr ARGLWYDD fi ar ddechrau ei waith,yn gyntaf o'i weithredoedd gynt.

23. Fe'm sefydlwyd yn y gorffennol pell,yn y dechrau, cyn bod daear.

24. Ganwyd fi cyn bod dyfnderau,cyn bod ffynhonnau yn llawn dŵr.

Diarhebion 8