Diarhebion 31:3-8 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

3. Paid â threulio dy nerth gyda merched,na'th fywyd gyda'r rhai sy'n dinistrio brenhinoedd.

4. Nid gweddus i frenhinoedd, O Lemuel,nid gweddus i frenhinoedd yfed gwin,ac nid gweddus i reolwyr flysio diod gadarn,

5. rhag iddynt yfed, ac anghofio'r hyn a ddeddfwyd,a gwyrdroi achos y rhai gorthrymedig i gyd.

6. Rhowch ddiod gadarn i'r un sydd ar ddarfod,a gwin i'r chwerw ei ysbryd;

7. cânt hwy yfed ac anghofio'u tlodi,a pheidio â chofio'u gofid byth mwy.

8. Dadlau o blaid y mud,a thros achos yr holl rai diobaith.

Diarhebion 31