Diarhebion 31:16-21 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

16. Ar ôl ystyried yn fanwl, y mae'n prynu maes,ac yn plannu gwinllan â'i henillion.

17. Y mae'n gwregysu ei llwynau â nerth,ac yn dangos mor gryf yw ei breichiau.

18. Y mae'n sicrhau bod ei busnes yn broffidiol,ac ni fydd ei lamp yn diffodd trwy'r nos.

19. Y mae'n gosod ei llaw ar y cogail,a'i dwylo'n gafael yn y werthyd.

20. Y mae'n estyn ei llaw i'r anghenus,a'i dwylo i'r tlawd.

21. Nid yw'n pryderu am ei thylwyth pan ddaw eira,oherwydd byddant i gyd wedi eu dilladu'n glyd.

Diarhebion 31