Diarhebion 30:12-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

12. Y mae rhai yn bur yn eu golwg eu hunain,ond heb eu glanhau o'u haflendid.

13. Y mae rhai yn ymddwyn yn falch,a'u golygon yn uchel.

14. Y mae rhai â'u dannedd fel cleddyfau,a'u genau fel cyllyll,yn difa'r tlawd o'r tir,a'r anghenus o blith pobl.

15. Y mae gan y gele ddwy ferchsy'n dweud, “Dyro, dyro.”Y mae tri pheth na ellir eu digoni,ie, pedwar nad ydynt byth yn dweud, “Digon”:

16. Sheol, a'r groth amhlantadwy,a'r tir sydd heb ddigon o ddŵr,a'r tân nad yw byth yn dweud, “Digon”.

Diarhebion 30