Diarhebion 3:31-35 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

31. Paid â chenfigennu wrth ormeswr,na dewis yr un o'i ffyrdd.

32. Oherwydd y mae'r ARGLWYDD yn ffieiddio'r cyfeiliornus,ond yn rhannu ei gyfrinach â'r uniawn.

33. Y mae melltith yr ARGLWYDD ar dŷ'r drygionus,ond y mae'n bendithio trigfa'r cyfiawn.

34. Er iddo ddirmygu'r dirmygwyr,eto fe rydd ffafr i'r gostyngedig.

35. Etifedda'r doeth anrhydedd,ond y ffyliaid bentwr o warth.

Diarhebion 3