16. Yn ei llaw dde y mae hir oes,a chyfoeth ac anrhydedd yn ei llaw chwith.
17. Ffyrdd hyfryd yw ei ffyrdd,a heddwch sydd ar ei holl lwybrau.
18. Y mae'n bren bywyd i'r neb a gydia ynddi,a dedwydd yw'r rhai sy'n glynu wrthi.
19. Trwy ddoethineb y sylfaenodd yr ARGLWYDD y ddaear,ac รข deall y sicrhaodd y nefoedd;
20. trwy ei ddeall y ffrydiodd y dyfnderau,ac y defnynna'r cymylau wlith.