Diarhebion 27:11-17 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

11. Fy mab, bydd ddoeth, a llawenha fy nghalon;yna gallaf roi ateb i'r rhai sy'n fy amharchu.

12. Y mae'r craff yn gweld perygl ac yn ei osgoi,ond y mae'r gwirion yn mynd rhagddo ac yn talu am hynny.

13. Cymer wisg y sawl sy'n mynd yn feichiau dros ddyn dieithr,a chadw hi'n ernes o'i addewid ar ran dieithryn.

14. Y mae'r un sy'n bendithio'i gyfaill รข llef uchel,ac yn codi'n fore i wneud hynny,yn cael ei ystyried yn un sy'n ei felltithio.

15. Diferion parhaus ar ddiwrnod glawog,tebyg i hynny yw gwraig yn cecru;

16. y mae ei hatal fel ceisio atal y gwynt,neu fel un yn ceisio dal olew yn ei law.

17. Y mae haearn yn hogi haearn,ac y mae pob un yn hogi meddwl ei gyfaill.

Diarhebion 27