Diarhebion 23:12-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

12. Gosod dy feddwl ar gyfarwyddyd,a'th glust ar eiriau deall.

13. Paid ag atal disgyblaeth oddi wrth blentyn;os byddi'n ei guro â gwialen, ni fydd yn marw.

14. Os byddi'n ei guro â gwialen,byddi'n achub ei fywyd o Sheol.

15. Fy mab, os bydd dy galon yn ddoeth,bydd fy nghalon innau yn llawen.

Diarhebion 23