Diarhebion 22:3-7 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

3. Y mae'r craff yn gweld perygl ac yn ei osgoi,ond y gwirion yn mynd rhagddo ac yn talu am hynny.

4. Gwobr gostyngeiddrwydd ac ofn yr ARGLWYDDyw cyfoeth, anrhydedd a bywyd.

5. Y mae drain a maglau ar ffordd y gwrthnysig,ond y mae'r un gwyliadwrus yn cadw draw oddi wrthynt.

6. Hyffordda blentyn ar ddechrau ei daith,ac ni thry oddi wrthi pan heneiddia.

7. Y mae'r cyfoethog yn rheoli'r tlawd,ac y mae'r benthyciwr yn was i'r echwynnwr.

Diarhebion 22