Diarhebion 19:20-24 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

20. Gwrando ar gyngor, a derbyn ddisgyblaeth,er mwyn iti fod yn ddoeth yn y diwedd.

21. Niferus yw bwriadau meddwl pobl,ond cyngor yr ARGLWYDD sy'n sefyll.

22. Peth dymunol mewn pobl yw eu teyrngarwch,a gwell yw tlotyn na rhywun celwyddog.

23. Y mae ofn yr ARGLWYDD yn arwain i fywyd,a'r sawl a'i medd yn gorffwyso heb berygl niwed.

24. Er i'r diogyn wthio'i law i'r ddysgl,eto nid yw'n ei chodi at ei enau.

Diarhebion 19