Diarhebion 18:7-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

7. Genau'r ynfyd yw ei ddinistr,ac y mae ei eiriau yn fagl iddo'i hun.

8. Y mae geiriau'r straegar fel danteithionsy'n mynd i lawr i'r cylla.

9. Y mae'r diog yn ei waithyn frawd i'r un sy'n dwyn dinistr.

10. Y mae enw'r ARGLWYDD yn dŵr cadarn;rhed y cyfiawn ato ac y mae'n ddiogel.

11. Golud y cyfoethog yw ei ddinas gadarn,ac y mae fel mur cryf yn ei dyb ei hun.

12. Cyn dyfod dinistr, y mae'r galon yn falch,ond daw gostyngeiddrwydd o flaen anrhydedd.

13. Y mae'r un sy'n ateb cyn gwrandoyn dangos ffolineb ac amarch.

Diarhebion 18