Diarhebion 18:13-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

13. Y mae'r un sy'n ateb cyn gwrandoyn dangos ffolineb ac amarch.

14. Gall ysbryd rhywun ei gynnal yn ei afiechyd,ond os yw'r ysbryd yn isel, pwy a'i cwyd?

15. Y mae meddwl deallus yn ennill gwybodaeth,a chlust y doeth yn chwilio am ddeall.

16. Y mae rhodd rhywun yn agor drysau iddo,ac yn ei arwain at y mawrion.

17. Y mae'r cyntaf i ddadlau ei achos yn ymddangos yn gyfiawn,nes y daw ei wrthwynebwr a'i groesholi.

18. Rhydd y coelbren derfyn ar gwerylon,ac y mae'n dyfarnu rhwng y cedyrn.

Diarhebion 18