Diarhebion 17:17-21 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

17. Y mae cyfaill yn gyfaill bob amser;ar gyfer adfyd y genir brawd.

18. Un disynnwyr sy'n rhoi gwystl,ac yn mynd yn feichiau dros ei gyfaill.

19. Y mae'r un sy'n hoffi tramgwyddo yn hoffi cynnen,a'r sawl sy'n ehangu ei borth yn gofyn am ddinistr.

20. Nid yw'r meddwl cyfeiliornus yn cael daioni,a disgyn i ddinistr a wna'r troellog ei dafod.

21. Y mae'r un sy'n cenhedlu ffŵl yn wynebu gofid,ac nid oes llawenydd i dad ynfytyn.

Diarhebion 17