Diarhebion 15:11-14 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

11. Y mae Sheol ac Abadon dan lygad yr ARGLWYDD;pa faint mwy feddyliau pobl?

12. Nid yw'r gwatwarwr yn hoffi cerydd;nid yw'n cyfeillachu รข'r doethion.

13. Y mae calon lawen yn sirioli'r wyneb,ond dryllir yr ysbryd gan boen meddwl.

14. Y mae calon ddeallus yn ceisio gwybodaeth,ond y mae genau'r ffyliaid yn ymborthi ar ffolineb.

Diarhebion 15