Diarhebion 14:28-33 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

28. Yn amlder pobl y mae anrhydedd brenin;ond heb bobl, dinistrir llywodraethwr.

29. Y mae digon o ddeall gan yr amyneddgar,ond dyrchafu ffolineb a wna'r byr ei dymer.

30. Meddwl iach yw iechyd y corff,ond cancr i'r esgyrn yw cenfigen.

31. Y mae'r un sy'n gorthrymu'r tlawd yn amharchu ei Greawdwr,ond y sawl sy'n trugarhau wrth yr anghenus yn ei anrhydeddu.

32. Dymchwelir y drygionus gan ei ddrygioni ei hun,ond caiff y cyfiawn loches hyd yn oed wrth farw.

33. Trig doethineb ym meddwl y deallus,ond dirmygir hi ymysg ffyliaid.

Diarhebion 14