Diarhebion 14:23-26 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

23. Ym mhob llafur y mae elw,ond y mae gwag-siarad yn arwain i angen.

24. Eu craffter yw coron y doeth,ond ffolineb yw addurn y ffyliaid.

25. Y mae tyst geirwir yn achub bywydau,ond y mae'r twyllwr yn pentyrru celwyddau.

26. Yn ofn yr ARGLWYDD y mae sicrwydd y cadarn,a bydd yn noddfa i'w blant.

Diarhebion 14